Cymraeg
Ffurfiwyd cwmni Direct Education oddeutu pedair blynedd ar hugain yn ôl i ateb y galw cynyddol am gyrsiau Lefel A yn y Gyfraith, ond gan nad oedd hi’n ymarferol i ysgolion gynnal athro y Gyfraith, cynigiodd sylfaenydd y cwmni, Kenneth Edwards, ddysgu cyrsiau’r Gyfraith trwy ymweld ag ysgolion a datblygodd hyn i ddysgu’r cyrsiau trwy fideo gynadledda ac hefyd i gynnig y cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Direct Education yn cynnig amrediad o gyrsiau trwy fideo gynadledda a hefyd trwy ymweld ag ysgolion.
Cyrsiau trwy gyfrwng Gymraeg
Mae’r cwmni hefyd yn falch o gynnig nifer o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cwmni Direct Education ar y blaen yn cynnig cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn wir, mae’r cwmni wrthi’n ddyfal yn llunio Gwerslyfr safonol AS yn y Gymraeg. Mae ganddom gysylltiadau cryf gyda'r 'CBAC' ac fel bydd manylebau yn dod ar gael byddwn yn datblygu'r cyrsiau Cymraeg i fynd efo nhw. Am fwy o fanylion ynglyn ag un o’r cyrsiau hyn neu unrhyw wybodaeth pellach, yna cysyllter â (01492) 870434.